P-03-302 Ffatri prosesu compost
Geiriad y ddeiseb
Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i alw ar Asiantaeth yr Amgylchedd (Cymru) i gymryd camau er mwyn atal gwaith dros dro yng ngweithfeydd compostio Bryn yng Ngelligaer, nes bod Asiantaeth yr Amgylchedd yn fodlon y byddant yn gallu parhau i weithio heb lygredd drewllyd difrifol fel sydd wedi bod yn difetha bywydau trigolion lleol yn ddiweddar.
Linc i’r ddeiseb:http://www.senedd.cynulliadcymru.org/mgIssueHistoryHome.aspx?IId=900
Cynigwyd gan:Y Cynghorydd Hefin David
Nifer y llofnodion: 642
Ystyriwyd gan y Pwyllgor ar: 12 Hydref, 16 Tachwedd 2010, 11 Ionawr, 1 Mawrth, 29 Mawrth, 21 Mehefin 2011.
Y wybodaeth ddiweddaraf: Cafwyd gohebiaeth gan y Deisebydd.